Design a site like this with WordPress.com
Get started

25 Gorffenaf – Diwrnod Rhyngwladol Solidariaeth gyda Carcharorion Antifa (#j25antifa)

Ers y 25 Gorffenaf diwetha, mae’r brwydro rhyngwladol yn erbyn y hunllef ffasgaidd wedi tyfu a wedi gwaethygu. Bob dydd, mae’r newyddion yn adrodd am ymosodiadau hiliol newydd, aflonyddu newyddiadurwyr, diawleiddiad ymfudwyr, a codiad trais o grwpiau ffasgaidd cydlynedig. Tra mae’r ddychmyg cenedlaethol dallbleidiol yn atgynhyrchu ar raddfa eang, mae hi’n trio ein gwneud ni i gyd carcharorion y goror hefyd.

Hanes

Naeth Diwrnod Rhyngwladol Solidariaeth gyda Carcharorion Antifa ddechrau mewn 2014 fel Diwrnod Solidaiaeth gyda Jock Palfreeman – dyn o Awstralia pwy oedd wedi cael 20 mlynedd yn y carchar ym Mwlgaria achos naeth e achubu dau dynion Romani o ymosodiad o hwliganiaid ffasgaidd. Yn hapus, mae Palfreeman wedi ei ryddhau ar parôl ar ol treulio 11 mlynedd yn y carchar, ond mae cannoedd o carcharorion arall pwy sy’n y carchar heddiw achos naethon nhw sefyll lan yn erbyn ffasgaeth a chasineb.

Jock Palfreeman.

Dyna ydy pam mae’r pumed ar hugain o Orffenaf yn mor bwysig; mae’r Diwrnod Rhyngwladol Solidariaeth gyda Carcharorion Antifa’n  amcanu torri’r gororau ac yn adeiladu ateb rhyngwladol yn erbyn ffasgaeth. Trwy gael digwyddiad, codi arian, neu trefnu gweithred mewn solidariaeth gyda’r cymrodyr ‘ma, dyn ni’n cryfhau ein symudiadau lleol, trwy yn sicrhau nag y pobl pwy sy wedi achadw ein cymunedau yn erbyn y bygwl ffasgaidd ddim yn anghof. Dyn ni’n creu hefyd y cysylltiadau solidariaeth rhyngwladol ffyrfaidd sy’n gallu trosgynnu’r carchar a’r wal goror.

Mewn 2020, bydd Antifa International a’r International Antifascist Defense Fund yn trefnu ac yn hysbysebu ymgyrchau a digwyddiadau ar gyfer y Diwrnod Rhyngwladol Solidariaeth gyda Carcharorion Antifa. Ar gyfer yr pumed ar hugain o Orffenaf ‘ma, 2020, dyn ni’n galw ar bawb ledled y byd i weithredu mewn solidariaeth gyda carcharorion Antifa—y cymrodyr pwy sy wedi bod y tu ol i fariau am gormod o flynyddoedd, y ffrindiau pwy sy Newydd dechrau eu amser yn y carchar, y mates dal yn aros am eu triala—achos maen nhw yno i ni, a felly mae rhaid i ni fod yma iddyn nhw!

%d bloggers like this: